Text Box: Jocelyn Davies AC
 Cadeirydd
 Y Pwyllgor Cyllid
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 

18 Ionawr 2016

 

Annwyl Jocelyn,

Craffu ar y Gyllideb Ddrafft 2016-17

Ar 14 Ionawr 2015, clywodd y Pwyllgor Menter a Busnes dystiolaeth gan Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, a swyddogion o’r Adran Addysg, ar ei phortffolio ei hun, ac ar bortffolio y Gweinidog Addysg a Sgiliau.

Roedd y Pwyllgor yn dymuno tynnu sylw at dri maes pryder a gododd o’n gwaith craffu ar y rhannau addysg a sgiliau o’n cylch gwaith.

Effaith gostyngiadau cyllidebol ar gyllidebau Refeniw a Chostau Cynnal Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Roedd y Pwyllgor yn pryderu’n fawr am y newidiadau arfaethedig i’r cyllid ar gyfer y sector addysg uwch, a bydd yn gofyn am ragor o gyfleoedd i graffu ar:

§  y gostyngiad o £20m i refeniw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru; ac

§  y gostyngiad o £0.277m (-10%) i gostau cynnal Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

 

Mae maint y toriadau hyn yn codi cwestiwn ynghylch a fydd y cyngor cyllido yn gallu cyflawni ei amcanion. 

O ran y gostyngiadau arfaethedig i’r gyllideb refeniw addysg uwch, roedd y Pwyllgor yn ei chael hi’n anodd asesu effaith bosibl y toriadau heb ryw arwydd ynglŷn â’r blaenoriaethau y bydd y Gweinidog yn eu nodi yn ei lythyr cylch gwaith blynyddol i’r Cyngor Cyllido Addysg Uwch. Dywedwyd wrthym y bydd y Cyngor yn trafod y sefyllfa ddydd Gwener, 22 Ionawr, a bydd y Pwyllgor yn gofyn am ragor o wybodaeth maes o law.

Mae’r Pwyllgor yn deall rôl annibynnol y cyngor cyllido, ond rhaid fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal rhywfaint o asesiadau effaith/risg cyn cynnig cymaint o ostyngiad i gyllid y Cyngor ar gyfer y sector. Felly, byddai’r Pwyllgor wedi disgwyl i’r Dirprwy Weinidog allu rhoi arwydd cliriach ynghylch blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. (Blaenoriaethu)

Bydd y Pwyllgor yn gofyn i’r Gweinidog ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y blaenoriaethau y mae am i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru roi sylw iddynt.

Mae tystiolaeth gan y sector yn rhybuddio bod perygl difrifol iawn y bydd toriadau o ran cyllid yn effeithio’n anghymesur ar y ddarpariaeth ar gyfer pobl sy’n dilyn cyrsiau rhan-amser, ar waith ymchwil ac ar y pynciau drud.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymateb y Dirprwy Weinidog am flaenoriaethu’r ddarpariaeth ran-amser. Er, nodwn fod y Prif Weinidog wedi rhoi sicrwydd i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol mai’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol oedd yn cael blaenoriaeth y diwrnod cynt. O ystyried y gostyngiad ym maint y pot cyffredinol, mae’n ymddangos yn annhebygol y gall Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ddiogelu blaenoriaethau lluosog yn llawn.

Mae’r dystiolaeth gan y sector Addysg Uwch yn tynnu sylw at bryderon penodol o ran cydraddoldeb, y bydd gostyngiadau i’r ddarpariaeth addysg uwch ran-amser yn cael effaith niweidiol ar ddysgwyr benywaidd a dysgwyr hŷn.

Nododd y Pwyllgor hefyd bryderon (fforddiadwyedd) am yr effaith a gaiff y toriadau ar gyllid ar gyfer:

§  Ymchwil (QR) ac unrhyw niwed posibl i allu’r sector Addysg Uwch yng Nghymru i gystadlu am gyllid ymchwil allanol;

§  Cyllid ar gyfer pynciau drud (fel meddygaeth, deintyddiaeth a chyrsiau Conservatoire) a’r effaith bosibl ar gyrsiau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn gyffredinol.

§  Risg y bydd gostyngiadau o ran cyllid yn golygu bod sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru yn llai sefydlog mewn tablau cynghrair, gan ei gwneud yn anos i ddenu myfyrwyr a’r ffioedd dysgu sy’n gysylltiedig â hwy.

 

Mae’r Pwyllgor hefyd yn pryderu am effaith y gostyngiadau (10%) i gostau cynnal Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Rydym yn deall fod Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015 wedi sefydlu fframwaith llywodraethu newydd i’r Cyngor Cyllido ei roi ar waith. Fodd bynnag, mae gan yr argymhellion yn adolygiad yr Athro Syr Ian Diamond (sydd i’w gyhoeddi yn ddiweddarach eleni) ac ymateb Llywodraeth nesaf Cymru i’r argymhellion hyn y potensial i fod yn bellgyrhaeddol iawn, a gallent newid rôl Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a’i gylch gwaith unwaith eto.

Gyrfa Cymru

Mae’r Pwyllgor yn nodi â phryder y gostyngiad pellach i’r cyllid ar gyfer Gyrfa Cymru. Rydym yn parhau’n bryderus bod dibyniaeth ar ddarparu digidol yn golygu na all pobl ifanc sydd dan anfantais neu nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant gael cyfle i gael cyngor annibynnol ar yrfaoedd. (Blaenoriaethu)

Prentisiaethau

Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r arian ychwanegol ar gyfer prentisiaethau (o gronfeydd wrth gefn ac o ganlyniad i’r cytundeb cyllidebol gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru). Rydym hefyd yn croesawu sicrwydd y Dirprwy Weinidog y bydd digon o arian i sicrhau y bydd dechreuwyr newydd a rhai sydd eisoes ar brentisiaeth yn gallu cwblhau eu rhaglenni. (Blaenoriaethu)

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod ac yn rhannu pryder y Dirprwy Weinidog bod y diffyg eglurder hyd yma ynghylch cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer ardoll prentisiaethau wedi achosi i Lywodraeth Cymru oedi wrth ddatblygu ei chynlluniau ei hun ar gyfer prentisiaid a hyfforddeion.

 

Yn gywir,

WG Signature

William Graham AC

Cadeirydd